“Y Mandarin” – Llong Droseddwr
Gadawodd y llong droseddwr o Spithead, Portsmouth i Wlad Van Diemen (Tasmania) ar 25ain Chwefror 1840. Roedd arweinyddion y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, ar y llong ac roedd eu dedfrydau i farwolaeth wedi eu newid i alltudiaeth oherwydd gwrthgrïoedd o’r cyhoedd. Y Mandarin oedd yn llong hwylio 425 tunnell S-rig a adeiladwyd gan Horton yn 1834 a James Muddle oedd y capten. Ar y cyfan, roedd 212 o droseddwyr ar y llong yn cael eu halltudio am droseddau o geisio cipio hancesi neu ddynladdiad. Yn ôl sawl ffynhonnell, ystyriwyd alltudiaeth yn gosb ddifrifol i lawer o’r carcharorion sydd o gymharu â safonau heddiw, wedi perfformio troseddau bach.
CLICIWCH YMA I WELD MANYLION O’R CARCHARORION I GYD AR Y MANDARIN YN CYNNWYS JOHN FROST ZEPHANIAH WILLIAMS A WILLIAM JONES (yn nhrefn y wyddor)
Y Mandarin, Llong Droseddwr, a hwyliwyd 24ydd Chwefror, 1840
Ysgrifennodd John Frost am ei brofiadau ar y Mandarin: “Cynyddodd fy nghryfder yn raddol, ac wedyn daeth mwy o ddyfalbarhad i oddef fy nghaledi gydag amynedd a chaledwch. Un dydd, pan oedd y llong yn siglo o naill ochr i’r llall, ces i ddarn caled o gig eidion; roeddwn yn cadw cydbwysedd yn erbyn y pared gydag un llaw ac yn ceisio torri’r cig gyda’r llaw arall, pan glywais rywun yn chwerthin yn uchod i mi. Edrychais i fyny i weld hen swyddog yn chwerthin ataf, ’Ah Mr Frost,’ dywedodd, ‘bydd y fordaith hon o werth mil o bunnau blynyddol i chi; bydd o ddysg i chi.’
Ar fordaith flaenorol, bu farw 14 o’r bobl ar y Mandarin oherwydd diffyg o awyr ffres, blinder o salwch môr, aplopecsi, ffrenitis a chonfylsiynau, felly dyletswyddau Alexander McKechnie, meddyg y llong, oedd yn bwysig iawn i gadw’r troseddwyr yn fyw yn ystod y fordaith, bu farw un person yn unig ar y daith hon. Roedd Dr McKechnie yn cadw nodiadau meddygol manwl ynghylch salwch troseddwyr:-
Joseph Hudson, 26 oed, troseddwr; gwaedboer. Enwyd ar restr o bobl sâl, 4 Mawrth. Rhyddhawyd 12 Mawrth.
James Williams, 30 oed, milwr 51fed catrawd; twymyn. Enwyd ar restr o bobl sâl 8 Ebrill. Bu farw 10 Ebrill
Thomas Connall, 22 oed, milwr 96ain catrawd; colica spasmodica. Enwyd ar restr o bobl sâl 15 Ebrill – Rhyddhawyd 25 Ebrill
Thomas Bush, 22 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 18 Ebrill – Rhyddhawyd 24Ebrill
John Gallop, 28 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 24 Ebrill – Rhyddhawyd 24 Ebrill
John House, 27 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 26 Ebrill 1840. Rhyddhawyd 30 Ebrill
George Coe, 33 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 7 Mai 1840. Rhyddhawyd 4 Mehefin
Richard Cass, 22 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 25 Mai 1840. Rhyddhawyd 9 Mehefin
Thomas Mole, 23 oed, troseddwr; llwg a chatâr. Enwyd ar restr o bobl sâl, 25 Mai 1840. Rhyddhawyd 6 Gorffennaf 1840 i’r Ysbyty Cytrefol.
Thomas Evans, 19 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 27 Mai 1840. Rhyddhawyd 2 Mehefin
Walter Duke, 33 oed, troseddwr; purpura. Enwyd ar restr o bobl sâl, 8 Mehefin 1840. Bu farw 10 Mehefin
William Bolden, 52 oed, troseddwr; purpura. Enwyd ar restr o bobl sâl, 11 Mehefin 1840. Rhyddhawyd 6 Gorffennaf 1840 i’r Ysbyty Cytrefol.
Charles Baker, 30 oed, troseddwr; llwg. Enwyd ar restr o bobl sâl, 12 Mehefin 1840. Rhyddhawyd 23 June
John Morton, 24 oed, troseddwr; purpura. Enwyd ar restr o bobl sâl, 24 Mehefin 1840. Rhyddhawyd 29 Mehefin
Francis Rogers, 20 oed, troseddwr; catâr. Enwyd ar restr o bobl sâl, 28 Mehefin 1840. Rhyddhawyd 1 Gorffennaf 1840 i’r Ysbyty Cytrefol.
Jean Jacques Courbean, 62 oed, troseddwr; crebachiad. Enwyd ar restr o bobl sâl, 29 Mehefin 1840. Rhyddhawyd 1 Gorffennaf 1840 i’r Ysbyty Cytrefol.
John Williams, 25 oed, troseddwr; torgest. Enwyd ar restr o bobl sâl, 2 Gorffennaf 1840. Rhyddhawyd 2 Gorffennaf 1840 a derbyniodd drawst.
Gellir rhagor o wybodaeth ei weld am sgyrsiau Dr Alex McKechnie ar y Mandarin yn llyfr Les James, “Render the Chartists Defenceless”.
Ar ôl 126 dydd ar y môr ar y Mandarin, cyrhaeddodd y troseddwyr eu pen taith yn y gytref benydiol, Porthladd Arthur, Tasmania, ar ôl taith dros 12,000 môr-filltiroedd, ac yn cyrraedd ar 30 Mehefin 1840.
CLICIWCH YMA I WELD GWYBODAETH AM Y GYTREF BENYDIOL, PORTHLADD ARTHUR – “peiriant sy’n gwneud troseddwyr yn onest”.
LLONGAU TROSEDDWR ERAILL A GYRHAEDDODD YN AWSTRALIA YN 1840
http://www.historyaustralia.org.au/twconvic/1840
LLONG | CAPTEN | MEDDYG | GADAWYD | CYRHAEDDWYD | TROSEDDWR DYN | TROSEDDWYR MENYW |
Mandarin 1840 | Muddle, James | McKechnie, Alex | Spithead | Hobart | 212 | 0 |
Maitland 1840? | Baker, Jn. | Toms, Plp | Sheerness | Sydney | 310 | 0 |
Margaret 1840? | Canney, Ed. | Browning, Col. A | Dublin | Sydney | 0 | 133 |
Pekoe 1840? | Keen, Sampson | Bower, Rbt. | Dublin | Sydney | 184 | 0 |
Eden 1840? | Naylor, Hy. J. | Forman,
Geo. E. |
Sheerness | Sydney | 270 | 0 |
Egyptian 1840? | Skelton, Jn. | Kidd, Jn. | Dublin | Hobart | 170 | 0 |
Augusta Jessie 1840 | Sparke, J.S | Dunn, Thos. | Dublin | Norfolk Is. Sydney | 290 | 0 |
Mangles 1840? | Carr, Wm. | Nisbett, Alex. | Plymouth | Norfolk Is. Sydney | 290 | 0 |
Canton 1840? | Mordaunt, Jn. | Irvine, Jn. | Plymouth | Hobart | 240 | 0 |
Middlesex 1840? | Munro, Chas. | Baird, Jn. | Dublin | Sydney | 200 | 0 |
Woodsbridge 1840? | Dobson, Wm. B. | Moxey, Geo. T | Llundain | Sydney | 230 | 0 |
Runnymede 1840? | Forward, W | Fisher, Ptr. | Llundain | Hobart | 200 | 0 |
Gilbert Henderson 1840? | Tweedie, J, | Hamett, Sir Jn. | Llundain | Hobart | 0 | 185 |
Surrey 1840? | Sinclair, Geo. | Leah, Ed. | Downs | Sydney | 0 | 213 |
Isabella 1840? | McAusland, Alex | Mahon, Hy. W. | Dublin | Sydney | 0 | 119 |
Asia 1840? | Fawcett, Jas. | Johnston, J. | Sheerness | Hobart | 276 | 0 |
King William 1840? | Thomas, Geo. | France, Campbell | Dublin | Sydney | 180 | 0 |
Nautilus 1840? | Alloway, H, | McClure, Geo. | Dublin | Norfolk Is. Sydney | 200 | 0 |
Parland 1840? | Rawlings | Bombay | Sydney | 11 | 0 |
Rhwng 1788 ac 1852, roedd cyfanswm o 1,800 troseddwr o Gymru a gafodd eu halltudio i Awstralia – tuag 1.2% y nifer cyfan o droseddwyr a alltudiwyd iddi erbyn y cyfnod hwnnw.