Menywod mewn Siartiaeth

Elizabeth Pease

Elizabeth Pease, merch Joseph Pease ac Elizabeth Beaumont, gafodd ei geni yn 1807. Yn ei 20au cynnar, daeth Elizabeth Pease yn arweinydd y Gymdeithas Menywod am Ddiddymu Caesthwasiaeth yn Darlington. Ym Mawrth 1838, ymunodd Elizabeth â Jane Smeal o Glasgow, i gyhoeddi pamffled, Anerchiad i Fenywod Prydain, roedden nhw’n annog menywod i drefnu cymdeithasau menywod gwrth-gaethwasiaeth. Credodd Elizabeth y dylai mudiad gwrth-gaethwasiaeth ganiatáu menywod i siarad mewn cyfarfodau cyhoeddus. Cefnogodd Elizabeth yr ymgyrch i’r Ddeddf Ddiwygio 1832 a ganiatawyd ei thad, Joseph Pease, i fod aelod Crynwr cyntaf Prydain yn Nhŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, yn annhebygol i’r mwyafrif o ddiwygwyr dosbarth canol, doedd Elizabeth ddim yn fodlon gyda’r mesur hwn a daeth hi yn gefnogwraig o fudiad Carfan Foesol y Siartwyr gyda’i chyfaill da, Anne Knight. Roedd Elizabeth yn agos gyda’r Siartwyr yn Darlington a helpodd hi ddosbarthu eu llenyddiaeth. Mewn llythyr at ei chyfaill, Anne Warren Weston, dynododd Elizabeth yr meddyliodd rhai o’i cyfellion yr oedd hi’n ‘anfoesgar’ ac yn ‘frwnt’ oherwydd yr oedd hi’n gefnogwraig o bleidlias gyffredinol. Credodd Elizabeth, y mwyaf radical o’r teulu Pease, yr oedd mwyafrif y problemau a oedd yn effeithio ar gymdeithas Brydeinig a achoswyd gan ‘ddeddfwriaeth ddosbarth’. Cefnogodd hi weithwyr a aeth ar streic ac amddiffynodd hi weithwyr a ymosododd ffatrïoedd yn Nghaerhirfryn ac Yorkshire yn 1842. Roedd Elizabeth yn aelod o’r Gymdeithas Heddwch a chymerodd y Gymdeithas Dirwest ran yn yr ymgyrch wrth-fywddyraniad. Yn 1853, cafodd Elizabeth ei phriodi i John Pringle Nichol, Athro Seryddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Roedd Nichol yn Presbyteraidd, cafodd Elizabeth ei diarddel o Gymdeithas y Cyfeillion. Ar ôl iddi phriodi, symudodd hi i Gaeredin a bywiodd hi ynddi tan ei marwolaeth yn 1897.

Mary Ann Walker – Siartydd

Jane Smeal

Jane Smeal, merch William Smeal, masnachwr te Crynwr o Glasgow, oedd un o’r ffigurau arweiniol yn y mudiad menywod am wrth-gaethwasiaeth. Ymunodd Jane ag Elizabeth Pease i helpu menywod i ffurfio eu cymdeithasau gwrth-gaethwasiaeth eu hun. Sefydlodd Jane Gymdeithas Menywod Glasgow am Ryddfreiniad a sefydlodd Elizabeth y Gymdeithas Menywod Darlington am Wrth-Gaethwasiaeth. Erbyn 1837 roedd 8 o’r grwpiau hyn. Ym Mawrth 1838, ymunodd Jane ag Elizabeth Pease, i gyhoeddi pamffled, Anerchiad i Fenywod Prydain, roedden nhw’n annog menywod i ffurfio cymdeithasau gwrth-gaethwasiaeth i siarad mewn cyfarfodydd. Yn yr 1840au, Jane gyda’i chyfeillion agos, Elizabeth Pease ac Anne Knight, oedd yn gefnogwyr o’r mudiad Carfan Foesol y Siartwyr.

Cartŵn sefydliad yn darlunio dirmyg at Siartwyr menywod

Anne Knight

Anne Knight, merch William Knight, groser cyfanwerth, gafodd ei geni yn Chelmsford yn 1781. Mam Anne oedd Priscilla Allen, merch William Allen, bragwr o Lundain, radical ac Anghydffurfiwr adnabyddus. Roedd y teulu Knight yn aelodau o’r Gymdeithas y Cyfeillion, yn heddychwyr, ac roedd yn fywiog yn yr ymgyrchoedd Gwrth-Gaethwasiaeth a Dirwest. Erbyn 1830, roedd Anne yn gysylltiol yn ymdrech y Crynwyr i ddiweddu caethwasiaeth. Yn Chelmsford, trefnodd ddeisebau, dosbarthodd lenyddiaeth a threfnodd cyfarfodydd cyhoeddus. Hefyd, ffurfiodd gangen o’r Gymdeithas Menywod am Wrth-Gaethwasiaeth yn Chelmsford. Teithiodd Anne yn aml i Lundain lle gweithiodd yn agos gyda Thomas Clarkson. Yn 1834, teithiodd Anne Knight yn Ffrainc lle rhodd hi areithiau ynghylch anfoesoldeb mewn gwrth-gaethwasiaeth. Dadleuodd hi am ddiddymiad caethwasiaeth yn syth heb iawndal. Yn hwyrach, cafodd ei chyfraniad at yr ymgyrch wrth-gaethwasiaeth ei adnabod pan gafodd pentref i gaethweision Jamaicaidd wedi eu rhyddhau ei henwi yn Knightsville. Daeth Knight yn fywiog ym mudiad y Siartwyr. Fodd bynnag, roedd hi’n bryderus am y ffordd y cafodd ymgyrchwyr menywod eu trin gan rhai o’r arweinwyr dynion yn y cymdeithasau Siartiaeth a Gwrth-Gaethwasiaeth. Roedd Anne yn ffyrnig pan oedd ymdrechion i stopio cynrychiolwyr menywod o gymryd rhan yng Nghonfensiwn Gwrth-Gaethwasiaeth y Byd a gynhaliwyd yn Llundain yn 1840. Ysbrydolodd ymddygiad yr arweinwyr dynion yng Nghonfensiwn Gwrth-Gaethwasiaeth y Byd i ddechrau ymgyrch i hyrwyddo hawliau cyfartal i fenywod. Roedd hwn yn cynnwys labeli a argraffwyd gyda dyfyniadau ffeministiaeth ar wyneb allanol ei llythyrau. Yn 1847 cyhoeddodd hi, beth a gredir, y daflen gyntaf ar bleidlais menywod. Mewn cynhadledd ar heddwch byd eang a gynhaliwyd yn 1849, cyfarfu Anne Knight 2 o ddiwygwyr Prydain, Henry Brougham a Richard Cobden. Roedd hi’n siomedig gan eu diffyg o frwdfrydedd am hawliau menywod. Dros y cwpl o fisoedd nesaf, anfonodd hi sawl llythyr yn dadlau ar bleidlais menywod. Aeth Knight yn erbyn arweinwyr Siartwyr a gredodd y frwydr ddosbarth yn bwysicach na’r frwydr am hawliau menywod. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn The Brighton Herald yn 1850, gorchymynnodd hi y dylai’r Siartwyr yn ymgyrchu dros ‘bleidlais gyffredinol gwir’. Yn y flynedd ddilynol, sefydlodd Knight beth a gredir y gymdeithas gyntaf dros bleidlais menywod. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf yn Sheffield yn Chwefror, 1851. Treuliodd Knight, na phriododd, eu blynyddoedd olaf yn Waldersbach, pentref bach a oedd yn Ne-Gorllewin o Strasbourg. Bu farw Anne Knight ar 4ydd Tachwedd, 1862.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.