Plant yn gweithio mewn Glofeydd

Plant yn gweithio mewn Glofeydd

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Plant sy’n gweithio mewn glofeydd

“Roeddwn i’n ofnus yr oedd rhywun wedi cipio fy mara a ‘nghaws. Rwy’n meddwl yr oedd y llygoden.” Hyd at ganol y 19g, goddefodd Prydain yr oedd plant mor ifanc â 5 oed yn rhan o’r gweithlu diwydiannol.

Roedd y rheolaeth yn goddef y cysyniad hwn, ond rhieni hefyd. Roedd angen am newidiad a dechreuwyd archwiliad ar gyflogaeth plant. Rhwng 1840 ac 1842, ymwelodd archwilwyr o’r llywodraeth â meysydd glo Cymru a siaradodd â glowyr plant. Cafodd y cyfweliadau hyn eu cyflwyno i’r Senedd fel rhan o’r Comisiwn Ymchwiliad ynghylch Cyflyrau Plant mewn Cyflogaeth. Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r cyflyrau afiach ac mae’n darlunio llun eglur o fywydau pob dydd y gweithwyr.

 

Glowyr plant

Glofeydd yn yr 1840au

Glofeydd yn y cyfnod hwn oedd yn ordyrrog, roedd awyriad drwg ac roedd yn beryglus. Nid oedd digon o sylw tuag at iechyd a diogelwch a chafodd plant eu niweidio a’u lladd oherwydd ffrwydradau, toeon yn cwympo, neu yn cael eu mathru gan droliau glo. Gwnaeth plant nifer o dasgau pwysig tan y ddaear – cadwryddion y drysau a weithredodd y drysau awyriad i droliau glo i fynd drwyddyn nhw, gweithwyr i lusgo troliau glo o wyneb y glo, cynorthwywyr y glowyr sy’n helpu torri’r glo, fel arfer bydden nhw’n gweithio gyda’u tadau neu frodyr hynach, a gyrwyr i arwain y ceffyl a dynnodd y cert drwy’r prif dramwyfeydd. Roedd llawer o lofeydd yn ‘drifftiau’ a gafodd eu cerfio yn y mynydd ac roedd plant yn gallu cerdded ynddyn nhw, roedd eraill yn siafftiau, a wasanaethwyd gan winshis neu beiriannau stêm. Roedd y glofeydd yn Llanelli hyd at 500 troedfedd tan y ddaear ac roedd angen i bobl yn disgyn trwy fasgedi neu ysgolion.

Phillip Phillip, 10 oed, o Lofa Brace yn Llanelli, oedd yn gyfarwydd â pheryglon yr ysgolion: ‘Rwy’n helpu fy mrawd ar y certi. Rwy’n gallu mynd lawr yr ysgolion fy hunan. Dydw i ddim yn ofnus i fynd lawr y pwll’. Cafodd yr archwiliwr a ymwelodd â Phillip anhawster yn disgyn yr ysgolion. Yn annhebyg i Phillip, roedd ef yn poeni am y sŵn a’r rhodenni pwmpio trwm a oedd yn agos i’r ysgolion.

Yn unig mewn tywyllwch

Roedd Mary Davies yn ‘ferch deg’ ac yn 6 oed. Daeth yr Archwiliwr Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu yn erbyn carreg fawr yng Nglofa Plymouth, Merthyr. Ar ôl iddi godi, dywedodd: ‘Es i i gwsg oherwydd yr oedd fy llusern wedi diffodd. Roeddwn i’n ofnus oherwydd y cafodd fy mara a ‘nghaws wedi eu cipio. Meddyliais yr oedd y llygoden.’

Susan Reece, a oedd yn 6 oed hefyd ac yn gadwrydd drws yn yr un lofa, dywedodd: ‘Dwi wedi bod yn lofa hon am chwech neu wyth mis a dwi ddim yn hoffi . Bydda i’n dod yma am chwech yn y bore ac yn gadael am chwech yn y nos. Pan yw fy llusern yn diffodd, neu fy mod i’n newynog, rhedaf adre’. Dwi ddim wedi bod yn anafedig eto.’

Mewn perygl

Roedd glofa yn lle peryglus i oedolion, dydy e ddim yn newydd y cafodd llawer o blant eu hanafu tan y ddaear.

Phillip Phillips, 9 oed, Glofa Plymouth, Merthyr: “Rhyw flynedd nôl, roedd damwain a chafodd llawer ohonom ni ein llosgi. Cariodd dyn fi adre’. Roedd yn ddolurus iawn oherwydd cafodd fy nghroen ei losgi. Doeddwn i ddim yn gweithio am chwe mis.”

William Skidmore, 8 oed, Glofa Buttery Hatch, Mynydd Islwyn. “Cafodd fy mhen ei fathru gan ddarn o’r to yn syrthio…”John Reece, 14 oed, Glofa Hengoed, “…cafodd fy nghoesau eu mathru, doeddwn i ddim yn gweithio am gwpl o wythnosau.”

Glowyr Plant a Gyrwyr Ceffyl

Treuliodd rhai plant hyd at 12 awr ar eu pen eu hun. Fodd bynnag, gweithiodd brawd Susan Reece, John, gyda’i dad ar wyneb y glo: “Dwi’n helpu fy nhad a dwi wedi bod yn gweithio yma am flynedd. Dwi’n cario ei offer llaw iddo ac yn llenwi’r troliau gyda glo ei fod wedi torri. Roeddwn i mewn ysgol am ychydig o amser a dysgais fy a.b.c.’ John Reece, 8 oed, Glofeydd Plymouth, Merthyr.

Roedd gan Phillip Davies geffyl. Roedd ei olwg yn welw ac yn llwm. Roedd ei ddillad yn garpiog. Doedd e ddim yn gallu darllen: “Dwi wedi bod yn gyrru ceffylau ers roeddwn i’n 7 oed ond roeddwn i’n gadwrydd drws awyr am flynedd cyn hynny. Hoffwn i fynd i’r ysgol ond dwi’n rhy flinedig oherwydd fy mod i’n gweithio 12 awr.” Phillip Davies, 10 oed, Glofa Dinas, Rhondda. Byddai gweithwyr cart yn tynnu eu certi gyda chadwyn a gydiodd wrth eu corff. Bydden nhw’n gweithio mewn twnelau isel rhwng wyneb y glo a’r tramwyfeydd uwch lle cafodd ceffylau eu defnyddio. Roedd pwys y certi tua 1 ½ canpwys o lo a gafodd ei llusgo am ryw 50 llath mewn bwlch o 3 throedfedd.

Edward Edwards, 9 oed, Glofa Yskyn, Llansawel, “Fy nghyflogaeth yw dod â cherti o ben y lofa i’r brif dramwyfa; 60 llath yw’r pellter; nid oes olwynion ar y certi; bydda i’n gwthio nhw o flaen fi; weithiau bydda i’n llusgo nhw, oherwydd gall y certi yn mathru ni ac mae’n digwydd yn aml.” Am wneud y gwaith hwn, byddai gweithiwr cert tua 5c pob dydd.

Tair Chwaer

Meddodd gwaith haearn Dowlais berchenogaeth o lofeydd haearn a glo; roedden nhw’n lofeydd mwyaf y byd yn y cyfnod hwn ac roedd yn darparu cyflenwadau i leoedd dros y byd. Fodd bynnag, roedden nhw’n dibynnu ar blant er mwyn ennill elwau. Gweithiodd tair chwaer yn un o’u glofeydd:

“Rydyn ni’n gadwryddion yn y lefel pedwar-troedfedd. Byddwn ni’n gadael y tŷ cyn 6:00 pob bore a bod yn y lefel tan 7 o’r gloch. Derbyniwn 2c pob dydd ac mae ein goleuad yn costio ni 2 ½ c pob wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi’n gallu darllen yn ychydig. Cafodd ei mathru gan gart yn ddiweddar ac roedd hi’n adref tra oedd hi’n sâl, ond mae hi’n well.”

Elizabeth Williams, 10 oed, a Mary a Rachel Enoch, 11 oed ac 12 oed, Glofa Dowlais, Merthyr

AR ÔL Y DDEDDF 1842

Roedd cyhoeddiad yr Adroddiad a gwaedd y cyhoedd wedi gwneud deddfwrfa yn anochel. Pasiwyd Deddf Reoliad y Pyllau Glo o’r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843, roedd yn erbyn y gyfraith i fenywod neu unrhyw blentyn o dan 10 oed i weithio tan y ddaear ym Mhrydain.

Doedd dim iawndaliadau i’r rheini a wnaethpwyd yn ddi-waith ac achosodd hyn galedi. Fodd bynnag, roedd yn hawdd osgoi’r Ddeddf – roedd dim ond 1 archwiliwr ym Mhrydain ac roedd rhaid iddo ddarparu rhybudd ymlaen llaw cyn iddo ymweld â glofeydd. Felly, roedd yn debygol y parheuodd menywod yn gweithio’n anghyfreithlon am sawl blynedd, amlygwyd presenoldeb y menywod pan gafodd eu lladd neu anafu.

Roedd y cysyniad o fenywod fel gweithwyr yn y diwydiant glo yn llai derbyniol dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, roedd nifer bach o weithwyr glo menywod yng Nghymru yn ystod y 20g. Yn 1990, cafodd y cymyn amddiffynnol ei ddiddymu ac ar ôl 150 o flynyddoedd, roedd menywod yn gallu gweithio tan y ddaear eto.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.