Henry Vincent

Henry Vincent, areithiwr Siartydd a golygydd y papur newydd Western Vindicator

Roedd Henry Vincent yn un o arweinwyr y Siartwyr yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr. Roedd e’n ffigwr ifanc ac yn garismatig a ddaeth â llawer o gefnogaeth i ymdrech y Siartwyr drwy ei areithiau a’i ganu. Roedd e’n argraffydd a golygodd bapur newydd y Siartwyr, The Western Vindicator. Derbyniodd ef gyfrifoldeb yn 1838 am hyrwyddo’r bleidlais gyffredinol a buddion lles a Chymdeithasau Gweithwyr mewn ardaloedd diwydiannol yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr o Gernyw lan i Wiltshire a Swydd Gaerloyw. Roedd e’n ymddiddori â gweledigaethau Tom Paine ac yn enwedig, neges Paine am bleidleisiau i bawb (yn cynnwys menywod), gwelliannau i gyflyrau gweithio, cyflogau addas a’r hawl i gyfarfod i wella cyflyrau gweithio.

Rhybuddiodd Henry Vincent o “pelen eira [mudiad tyfu] Siartiaeth…dylai gormeswyr yn wyliadwrus rhag ofn y dylai hi rolio lawr a’u gwasgu”.

Roedd Vincent yn ‘areithiwr medrus, yn angerddol ond yn rhesymegol ac yn glir, siaradwr cryno gydag egni ac ymdrech. Roedd e’n gallu perswadio dynion a menywod o bob math o ddosbarth cymdeithasol i gytuno â’i neges. “Dyn golygus a gyda ffigur main, amrantiad llawen ei lygad, ei ddynwarededd digyffelyb, ei frwdfrydedd llifo, ei lais sy’n canu’n oludog, ac yn bwysicach, ei apeliadau am ddyrchafiad menywod a bortreadwyd ef yn hoff ffigur gyffredinol ac ystyriodd Democratiaid dynion a menywod ef yn Dduw ifanc Democratiaeth Seisnig”. RC Gammage, ‘The History of The Chartist Movement’, 1859.

Yn Rhagfyr 1838, cyhoeddodd Vincent bapur newydd y Siartwyr “The Western Vindicator”.

Bwriadodd yr awdurdodau i rwystro Vincent a’i atal o leisio wrth bobl. Roedden nhw’n ofni chwyldroad gweithwyr gyda thrais a difrod i eiddo i’w ddilyn, roedden nhw yn erbyn y Siartwyr hynny a oedd yn hybu defnyddio trais er mwyn cyflawni eu hamcanion ac i fynegi eu dicter. Yn ystod ymweliad â Devizes, cafodd Vincent ei daro’n anymwybodol a’i guro. Disgrifia Henry Vincent ei stori o’r foment hon: “yn argraffu ar feddyliau ein pobl yr angen o gadw i’r drefn gaethaf, aethon ni mewn rhesi o wyth dyn…cerddom ni drwy’r strydoedd heb drafferth…roedd y dinasyddion mwyaf parchus yn gwatwar arnom ni…gwelais y Gwaywyr, gydag arfau, a nifer mawr o gwnstabliaid arbennig, roeddwn i’n canfod y cafodd pob stryd o gwmpas y Farchnad eu llenwi â lluoedd o ddynion, ac roedd llawer ohonyn nhw’n labrwyr. Cafodd cert ei lleoli o flaen Croes y Farchnad, ac wedyn sefydlodd ein cyfeillion eu hunain o’i chwmpas… dringodd Mr Roberts a fi ar ben yr hustyngau. Roedd corn yn canu ar gefn yr hustyngau, yn sydyn, pan gafodd carreg ei tharo ar fy mhen ac felly tarodd fi’n anymwybodol ac allan y gert”. Yn y nos a ddilynwyd…”Gwelais lawer o bobl mewn dillad taclus yn arwain yr ymosodiad, gydag arfau pistol. Ar ôl imi dderbyn sawl ergyd, codais ar y gert a mowntiom ni hi eto, ond roedd yn amhosib imi siarad…daeth tuag ugain dyn â phastynau arnaf fi… cafodd y geiriau ”Marwolaeth ar Vincent, Roberts a Carrier” eu gweiddi mewn harmoni…wedyn deffrodd dyn ei bastwn…ildiais iddo ac felly derbyniais ergyd ar fy mrest”. Enciliasant i’r Curriers’ Arms, ceisiodd Roberts a Vincent i roi araith i’r bobl am gyfnod byr, ond daeth i ben pan allan nhw weld “y dynion pastwn” (a gafodd eu hailgyflenwi gyda chwrw) yn casglu eto am ymosodiad”. Rhoddodd yr Uchel Siryf osgordd filwrol allan y dref.”

Dilynodd ysbiwyr y Llywodraeth ar ôl Vincent, yn chwilio am dystiolaeth i’w arestio ac yn ei euogfarnu mewn cyfnod pan oedd alltudiaeth i Awstralia neu farwolaeth gan grogi ar raff yn rhai o’r cosbau am annog aflonyddwch cymdeithasol.

Ym Mai 1839, cafodd Vincent ei arestio am wneud sylwadau a achoswyd dicter. Cafodd ei feirniadu o flaen Ustus yn Neuadd y Sir, Trefynwy ar 2 Awst 1839 a dedfrydwyd i un flynedd mewn carchar. Roedd y Siartwyr yng Nghasnewydd yn ffyrnig pan gafodd Vincent ei arestio a’i garcharu yng Ngharchar Sir Drefynwy. Dilynwyd ei arestiad gan sawl cychwyn o drais ac ymladd. Teithiodd John Frost o gwmpas Cymru yn perfformio areithiau ac yn galw am brotestiad enfawr er mwyn dangos y teimladau cyffredin yn erbyn carchariad Henry Vincent. Cynlluniodd Frost i orymdeithio i Gasnewydd, gyda’r Siartwyr, ac yn galw am ryddhad Vincent. Roedd yr awdurdodau yng Nghasnewydd wedi clywed achlust yr oedd y Siartwyr yn arfog ac yn cynllunio gafael Casnewydd. Dechreuwyd cylch o straeon pe bai’r Siartwyr llwyddo yng Nghasnewydd, byddai’n annog eraill dros Brydain i ddilyn eu henghraifft.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.