Adroddiad y Comisiwn Cyflogaeth Plant 1842

Gweithwyr Plant Fictorianaidd     

CLICIWCH YMA I WNEUD MWY AM GWEITHWYR PLANTAU FICTORIANAIDD

 

Comisiwn Cyflogaeth Plant [Pyllau Glo] 1842

Thomas Tooke, T. Southwood Smith, Leonard Horner, Robert J Sanders.

Mae’r casgliadau dilynol ynglŷn â phyllau Haearnfaen, ffwrneisi chwyth, gwaith llafur o dan y ydaear mewn pyllau tun, copr plwm a sinc, ayyb.

O’r dystiolaeth a gasglwyd, a’r hynny yr ydym wedi ceisio darparu dadansoddiad, gwelwn mewn perthynas â PHYLLAU GLO –

  1. Mae enghreifftiau lle plant yn cael eu hanfon i’r pyllau glo i weithio mor ifanc â phedwar oed, weithiau pump oed, ac yn aml rhwng chwech a saith oed, a rhwng saith ac wyth, ond rhwng wyth a nawr yw’r oedran cyffredin pan fydd cyflogaeth mewn glofeydd yn dechrau.
  2. Mae nifer mawr o’r bobl a gyflogir i barhau gwaith y glofeydd hyn yn ifancach na 13oed ac 18oed.
  3. Mewn sawl ardal, mae merched yn dechrau gwaith yn y glofeydd hyn mor ifanc â’r bechgyn.
  4. Mae nifer mawr o’r Plant a’r Bobl Ifanc a gyflogir yn y glofeydd hyn yn rhan o’r teuluoedd o weithwyr oedolion yn y pyllau, neu yn rhan o’r boblogaeth fwyaf gwael yn eu cynefin, byddan nhw’n cael eu cyflogi a’u talu mewn rhai ardaloedd gan weithwyr, ond mewn rhai ardaloedd gan berchenogion neu gontractwyr.
  5. Mewn rhai ardaloedd, mae nifer bach o brentisiaid plwyf, mae rhaid iddyn nhw wasanaethu ar eu meistri tan 21oed, mewn cyflogaeth nad oes unrhyw beth sy’n haeddu’r enw sgil, o dan gyflyrau o gamdriniaeth aml, ac o dan gyflyrau gormesol y byddan nhw’n derbyn bwyd a dillad yn unig, o gymharu â’u cyfeillion rhydd sy’n ennill cyflogau.
  6. Mae enghreifftiau o sgil a chyfalaf yn portreadu’r gweithle yn hyblyg, iach ac yn ddiogel, gwneir hyn yn llwyddiannus ynglŷn ag iechyd a chysur yn y pyllau; ond mae’n amhosib i’w hystyried yn hollol ddiogel; mae llawer o enghreifftiau sy’n cyfeirio at eu hawyriad a’u draeniad sy’n ddiffygiol.
  7. Natur y gyflogaeth a roddir i’r plant ifancaf, o’r enw cyffredin ‘trapping’ (plant a oedd yn gyfrifol am agor/gau trapddorau), mae rhaid iddyn nhw fod yn y pwll ar ddechrau’r dydd gwaith, ac yn ôl y system bresennol, ddylen nhw ddim yn gadael y pwll cyn y dydd gwaith wedi gorffen.
  8. Er nad yw’r gyflogaeth hon yn haeddu’r enw ‘llafur’, ond oherwydd bod y plant sydd ynddi yn gweithio yn y tywyllwch a heb gyfeillion, byddai’n gyfartal i gaethiwed unig os nad oedd troliau glo yn pasio heibio.
  9. Mae’r rheini yn yr ardaloedd gyda gwythiennau mawr ac mae ceffyl yn mynd yn syth i’r mecanweithiau, neu nad yw tramwyfeydd o’r mecanweithiau i’r ffyrdd y ceffylau yn faith, mae goleuadau’r prif dramwyfeydd yn portreadu sefyllfa’r plant hyn yn ddigalon, y ddwl ac yn ddryslyd; ond mewn rhai ardaloedd, maen nhw’n aros mewn tywyllwch ac unigedd yn ystod eu hamser yn y pwll, ac yn ôl un adroddiad, ni fydd llawer ohonyn nhw’n gweld goleuad y dydd am wythnosau yn ystod tymor y gaeaf, ac eithriad i’r dyddiau wythnos lle nad oes gwaith ac ar Ddydd Sul.
  10. Ar oedrannau gwahanol, o 6oed ac ymlaen, bydd y gwaith caled o symud y troliau glo o’r mecanweithiau i’r prif dramwyfeydd, neu i waelod y siafft, yn dechrau: mae’n waith llafur, y mae pawb sydd wedi ei wneud yn cytuno arno, sydd angen pob ymdrech o bŵer corfforol y plant.
  11. Mewn ardaloedd y pyllau glo lle mae merched yn gweithio, mae merched a bechgyn yn cael eu rhoi i’w gilydd i weithio yn yr un math o waith, a byddan nhw’n gweithio am yr un oriau gwaith, mae merched a bechgyn, a menywod a dynion ifanca gwragedd beichiog sy’n gweithio’n noeth yn aml, a’r dynion yn noeth mewn glofeydd, mae pawb sy’n dystion i’r hyn yn tystio bod cyflogaeth fenywaidd o dan y ddaear yn llygredig.
  12. Yn Nwyrain yr Alban, mae nifer mawr o Blant a Phobl Ifanc sydd wedi eu cyflogi yn y glofeydd hyn o gymharu ag ardaloedd eraill, mae merched yn cyfri am fwyafrif ohonyn nhw; prif ran eu cyflogaeth yw cario’r glo dros eu cefnau i fyny ysgolion serth.
  13. Pan fo’r gweithwyr mewn cyflogaeth gyflawn, nid yw oriau gwaith arferol y plant a phobl ifanc yn llai nag 11 awr; 12 awr yn aml, 13 awr mewn rhai ardaloedd; ac yn un ardal, maen nhw’n 14 awr ac ymlaen.
  14. Mewn mwyafrif cryf y glofeydd hyn, mae gwaith yn y nos yn rhan o’r system lafur cyffredin, yn ôl galw am glo, ac y mae’r dystiolaeth yn dangos i actio’n niweidiol ar gyflyrau corfforol a moesol y gweithwyr, ac yn bellach ar y Plant a Phobl Ifanc.
  15. Mae’r gwaith a wneir pob dydd am y nifer hwn o oriau gwaith, er nad yw’n barhaus, o natur y gyflogaeth, cyfnodau am sawl munud yn digwydd pan nad yw’r cyhyrau mewn defnydd bywiog, fydd yn mynd heb dorriad am disymudedd neu fwyd; bydd bwyd sy’n mynd lawr yn y pwll yn cael ei fwyta yn ei gyflwr gorau pan fo’n bosib tra bod y gwaith yn parhau.
  16. Mewn glofeydd sydd o dan reolaeth dda, lle mae’r oriau gwaith yn fyr, ac mewn rhai ohonyn nhw sy’n stopio’r gwaith am hanner awr/awr gyfan am brydau, nid oes cwynion o ludded ar ôl dydd yn y gwaith, pan fo plant yn ddeg oed ac ymlaen; fodd bynnag, mae enghreifftiau o gwynion am deimlo lludded, ac mae’r gweithwyr yn teimlo’r lludded hwn yn aml, i raddau drwg.
  17. Mewn llawer o enghreifftiau, mae gan y Plant a’r Bobl Ifanc ddim rheswm i gwyno ynglŷn â thriniaeth eu bod yn derbyn o’r unigolion sy’n rheoli yn y lofa, neu o’r glowyr; ond mae’n gyffredin y bydd Plant ifanc yn cael eu defnyddio gan Bobl Ifanc mewn ffyrdd creulon ac annheg; mae’r bobl awdurdodol yn y glofeydd hyn sy’n ymwybodol o’r gweithredoedd drwg hyn, ac yn gwneud dim byd i’w hatal, ac mae rhai yn dweud na ganddyn nhw hawliau i ymyrryd.
  18. Ni welir diddordebau, gydag eithriadau, gan berchenogion glofeydd tuag y Plant a’r Bobl Ifanc sy’n gweithio yn eu glofeydd ar ôl y gwaith dyddiol wedi gorffen; ni wneir llawer i ddarparu iddyn nhw modd o adloniant neu ddifyrrwch.
  19. Mae pob damwain maes glo o natur beryglus yn digwydd yn aml; ac ymholiadau a’r tablau cofrestr, yn profi bod y gweithwyr sydd wedi marw oherwydd damweiniau fel y rheini, mae Plant a Phobl Ifanc yn cyfri am niferoedd cyfartal ag oedolion.
  20. Mai un o’r mathau mwyaf aml o ddamweiniau yn y glofeydd hyn yw eisiau goruchwyliaeth gan reolwyr i oruchwylio’r peiriannau cyfrifol am gludo gweithwyr i fyny ac i lawr y siafft, i gyfyngu ar y rhif o bobl i’w cludo ar un pryd, cyflwr y lofa a’r mesur o nwyon niweidiol, ansawdd yr awyriad, ymrwymiad cadwryddion y drysau awyr i’w dyletswyddau, y lleoedd sy’n ddiogel neu ddim yn ddiogel i fynd ynddyn nhw gyda fflam agored, a hefyd pa mor ddiogel yw’r trawstiau sy’n cynnal y to, ayyb.
  21. Achosiad arall o ddamweiniau mewn glofeydd yw rhoi’r cyfrifoldeb o agor ac yn cau’r drysau awyr i blant ifanc.
  22. Mewn llawer o lofeydd mae rhagofalon i atal damweiniau yn cael eu hesgeuluso, ac nid oes arian yn cael ei thalu er mwyn gwella diogelwch neu gysur y gweithwyr.
  23. Mae dau arfer unigryw i sawl ardal sy’n haeddu’r anghymeradwyaeth uchaf, sef – yn gyntaf, yr arfer a welir yn aml mewn glofeydd bychain yn Sir Efrog a Sir Gaerhirfryn, o ddefnyddio rhaffau nad yw’n ddiogel am gludo gweithwyr i fyny ac i lawr y siafft; ac yn ail, yr arfer a welir yn Sir Efrog a Sir Gaerhirfryn a Derbyshire, o gyflogi bechgyn i weithio’r peiriannau stêm a fydd yn cludo gweithwyr i fyny ac i lawr y siafft.
  24. Nid oes gan y Plant a’r Bobl Ifanc sy’n gweithio yn y glofeydd hyn ddigon o fwyd, a phan fo nhw’n allan y lofa, nid oes ganddyn nhw ddillad gweddus a chyfforddus a fyddai eu cyflogau uchel anghyffredin yn gwarantu iddyn nhw; ond mewn llawer o enghreifftiau, yn enwedig mewn rhannau o Sir Efrog, Derbyshire, De Swydd Gaerloyw ac yn aml yn Nwyrain yr Alban, mae’r bwyd yn ansawdd drwg; dywed y Plant eu hunain nad oes ganddyn nhw ddigon i fwyta; ac mae’r Is-Gomisiynwyr yn disgrifio nhw fel bod yn garpiog, ac yn dweud mai’r esgus arferol y byddan nhw’n defnyddio am aros yn eu cartrefi ar Ddydd Sul, yn hytrach nag yn ymwneud ag adloniant yn yr awyr ffres neu yn mynychu lleoliad addoli, yw nad oes ganddyn nhw ddillad i’w gwisgo; yn yr enghreifftiau hyn, er gwaethaf y gwaith caled bod y plant hyn yn ei wneud, dydyn nhw ddim yn derbyn digon o fwyd neu ddillad: fodd bynnag mewn synnwyr cyffredinol, mae’r plant sydd yn y sefyllfa anhapus hon yn blant i rieni diog a fydd yn defnyddio cyflogau eu plant mewn tafarndy.
  25. Mae cyflogaeth yn y glofeydd hyn yn cynhyrchu enghreifftiau o gryfder cyhyrol mawr; mae’r datblygiad allnaturiol hwn a’r cryfder sy’n cael eu caffael, tra bod yr organau eraill yn cael eu blino, dangosir yn nhwf arafach y corff.
  26. Oherwydd gerwindeb y gwaith caled a’r oriau gwaith, ac oherwydd y cyflyrau afiach y gweithle, mae’r gyflogaeth hon, a wneir yn yr ardaloedd i gyd, yn dirywio’r cyfansoddiad; yn y gwythiennau cul, ac yn bwysicach, mae’r ystlysau wedi eu niweidio a’r strwythur wedi ei aflunio; mae’r pwerau cyhyrol yn ymostwng a’r gweithwyr yn methu i berfformio yn eu dyletswyddau, ac mewn cyfnod cynharach o fywyd nag unrhyw gangen arall o ddiwydiant.
  27. Gwelir y dechreuadau o glefydau angheuol ym mhlentyndod ac ieuenctid; mae’r rhain, sy’n datblygu’n araf ond yn sicr, yn dangos nodweddion arswydus rhwng 30oed a 50oed; bydd pob cenhedlaeth o ddosbarth hwn y boblogaeth yn marw yn fuan ar ôl iddyn nhw droi’n 50oed.

Glowyr Plant

Pan fo ni’n edrych ar ehangder y gangen hon o ddiwydiant, y nifer mawr o arian a fwydir ynddo, a’r cysylltiadau rhyngddo a changenau eraill o fasnach a gwneuthuriad, fel gwraidd i’n cyfoeth cenedlaethol a’n mawredd, mae’n iawn i wedi sefydlu, drwy dystiolaeth sicr, y ddau ganlyniad dilynol:

  1. Mae glofa, gydag awyriad addas a system ddiferu da, pan fo’r prif dramwyfeydd a’r llwybrau ymyl yn caniatáu uchder addas, dydy ef ddim yn afiach yn unig, ond bod y tymheredd canolig, ystyrir, fel gweithle, yn fwy hylan ac yn ddymunol o gymharu â gwaith a wneir uwchben y ddaear.
  2. Mae’r gwaith a fydd Plant a Phobl Ifanc yn ei wneud mewn glofeydd, sef; yn cludo troliau glo o fecanweithiau i’r prif dramwyfeydd neu i waelod y siafft, ar wahân iddo fod yn gyflogaeth afiach, mae’n ddisgrifiad o ymarfer corff, er ei fod yn datblygu cyhyrau’r breichiau, yr ysgwyddau, y frest, y cefn a’r coesau, heb droi rhannau’r corff i safiad gwaeth, mae’n bosib o ddod ag organau eraill i gynnwrf iach; mae’r anafiadau corfforol a gynhyrchir ohono, parheir yn annibynnol o’r rheini a achosir gan awyriad amherffaith a diferu diffygiol, sy’n ganfyddadwy at yr oedran cynnar pan fo’n dechrau, a chyfrannir at y cyfnod lle mae’n parhau ynddo.

Fodd bynnag, mae yna un anhawster penodol, lle mae holl y tramwyfeydd tanddaearol, a’r llwybrau ymyl yn enwedig, sydd o dan uchder sydd angenrheidiol, yn ôl tystiolaeth a gasglwyd o dan reolaeth y Comisiwn hwn, mae tystiolaeth bod yna glofeydd sy’n gweithredu gyda thramwyfeydd ynddyn nhw sydd mor fachbod y Plant ifancaf hyd yn oed yn cael trafferth yn symud ynddyn nhw heb fynd ar eu dwylo a’u traed, maen nhw’n llusgo troliau tra bod nhw mewn safiad drwg; a hefyd, oherwydd bod yn amhosib, gan unrhyw gostau sy’n gwarantu elw ariannol, i gynhyrchu glofeydd o’r math, sy’n addas i ddynion i weithio ynddyn nhw, fyddan nhw ddim bod mewn cyflwr llawer gwell yn byth, ac yn ganlyniadol, bydd yn amhosib gweithio ynddyn nhw heb gael anafiadau mawr ar iechyd y Plant.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.