Y Siartwyr: Ein Treftadaeth

Mae Y Siartwyr: Ein Treftadaeth yn animeiddio straeon o dreftadaeth ddilys y Siartwyr De Cymru a diwygwyr eraill y 19g a ffurfiodd ddemocratiaeth Prydain yn eu brwydr epig i gyfiawnder drwy ymgyrch am yr hawl-i-bleidleisio cyffredinol.

Mae cyfranogiad dinasyddion Casnewydd yn y prosiect hwn yn allweddol a dylai gynnwys y math o ddathliadau a oedd y Siartwyr yn eu mwynhau mewn lleoedd fel Caeau Pentonville yng Nghasnewydd a Chaeau Seren yn Dukestown, pan ddaeth sawl mil o Siartwyr i’w gilydd yn canu ac yn dawnsio mewn awyrgylch llawen i alw ar ‘Pleidleisiau i Bawb’ drwy Chwech Pwynt o Siarter y Bobl. Yn ystod y 1830au ac 1840au, pan roedd Siartiaeth yn ei gyfnod mwyaf dylanwadol, cynhaliwyd casgliadau o bobl yn yr awyr agored a chyfarfodydd i drafod ‘diwygiad cyfansoddiadol’ mewn trefi a dinasoedd ar draws Prydain. Basai’n cefnogi cais Casnewydd i fod yn geidwad o stori yr hawl i bleidleisio pe bai cynnal ‘Gŵyl yr Hawl’ blynyddol a allai ddigwydd drwy gasgliad diwylliannol gyda cherddoriaeth werinol a phoblogaidd, perfformiadau, gemau, cyflwyniadau a thrafodaethau. Gall rhan o hyn yn ‘Orymdaith y Bobl’ symbolaidd lawr Stow Hill lle gallai ymwelwyr a phreswylwyr yn ailberfformio digwyddiad 1839, a pherfformiadau symbolaidd yn Sgwâr Westgêt i’w ddilyn.

Gallai rhai o’r yr ŵyl hon yn archwilio ystyr democratiaeth heddiw, ac yn archwilio cwestiynau megis: “Ydy demcratiaeth yn galw am gyfranogiad gweithredol dinasyddion mewn etholiadau?”; “Ydy democratiaeth yn cynnwys amddiffyniad hawliau dynol o bob dinasydd a chyfrifoldebau canlynol o bob dinasydd?”; “Ydy democratiaeth yn rhoi hawl i ddinasyddion i Gyfiawnder, Llywodraethu’n Deg, Rhyddid i Siarad, Addysg, Iechyd, Cyflogaeth, Celf a Diwylliant?”; ac “Ydy democratiaeth yn olygu rheol o gyfraith sy’n cymhwyso at i bob dinasydd?”. Ar ôl eu treial yn 1840, cafodd John Frost, Zephaniah Williams, William Jones a charcharorion Siartwyr eraill eu halltudio i Awstralia ac ar ddiwedd eu dedfryd, cawsant eu rhyddhau i’r boblogaeth. Mae’n amlwg bod cysylltiad cryf rhwng dylanwad y Siartwyr yn y de hemisffer ar ôl eu rhyddad a’r ffaith yr oedd Seland Newydd (1893) ac Awstralia (1902) ymhlith y gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno pleidlais gyffredinol.

Mae “Casnewydd – Dinas Democratiaeth”, yn datgan hunaniaeth unigryw’r Ddinas yn amlinellu ei hymglymiad ym mudiadau’r Siartwyr Cymru a’r Swffragetiaid, ac yn haeru bod gan yr hunaniaeth hon bwysigrwydd cyfartal i ddyfodol Casnewydd o gymharu â’i hanes, yn caniatáu’r Ddinas i ddatblygu asedau cynaliadwy sy’n atgyfnerthu ei threftadaeth ac yn codi ei phroffil.

Mae Y Siartwyr: Ein Treftadaeth yn ymgysylltu â sawl grŵp megis myfyrwyr ysgol a phrifysgol, aelodau’r boblogaeth gyffredin, grwpiau cymuned fel hen ddinasyddion a grwpiau DELl (Du ac Ethnigrwydd Lleiafrifol), Aelodau Cynulliad, Asau, Aelod o Senedd Ewrop, a thwristiaid ac ymwelwyr i’r ardal. Rydyn ni’n cynnig y dylai Casnewydd ddatblygu cynlluniau ar gyfer Canolfan Ddemocratiaeth yn seiliedig ar brofiadau o leoliadau megis Amgueddfa Gaethwasiaeth yn Lerpwl a Chanolfan Wrthryfel Cenedlaethol 1798 yn Wecsffôd, Iwerddon, er mwyn dysgu beth sydd wedi llwyddo iddyn nhw ond hefyd, beth fethodd lwyddo. Basai’n ehangu ar y prosiect hwn yn darparu gwraidd gwell o ddeunyddiau i adeiladu stori arno, ond basai’n gwella enw da’r ddinas fel gwesteiwr yn bellach drwy ei sefydlu yn geidwad o naratif sy’n berthnasol ar draws y byd.

Gan ddarparu gwerthfawrogiad gwell o rôl canolog y ddinas ynghylch cyflawniad pennaf o Bleidleisiau i Bawb, bydd llawer o gyfleoedd yn cael eu creu i bob preswylydd. Mae eiddgarwch Siartwyr y 19g sy’n cael ei ddiwygio yn annog dinasyddion heddiw i deimlo’r un angerdd a fydd yn cadw fflam diddiwedd cyfiawnder yn fyw, i ganiatáu’r Ddinas i ddod yn fwy cydnabyddedig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel symbol o ddemocratiaeth

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.