Dr. William Morgan – cofiannau o 1839

Dywed cyn-bennaeth adran Hanes yn Ysgol Cil-y-Coed, Peter Strong, wrthym am stori Dr William Morgan a oedd yn feddyg a driniodd â Siartwyr wedi’u clwyfo yn ystod gwrthryfel Casnewydd yn 1839 a atgofiodd y digwyddiadau yn y South Wales Argus yn 1899.

Roedd Dr William Morgan yn lygad-dyst i un o ddigwyddiadau mwyaf dramatig hanes Casnewydd pan orymdeithiodd miloedd o Siartwyr i Gasnewydd er mwyn galw am ddiwygiad cymdeithasol a diwygiad democrataidd ond cafodd 22 Siartydd eu lladd tu allan  Gwesty Westgêt ar Heol Fasnachol. Mae cofiannau Dr William Morgan yn dod â’r diwrnod tyngedfennol hwnnw yn Dachwedd 1839 i fywyd fel daeth ef i derfyniad i’w fywyd ei hun.

Ar benblwydd 90ain Dr Morgan cafodd ei ymweld yn ei gartref gan ohebydd o’r South Wales Argus ac erthgyl hir oedd y canlyniad a gynhyrchwyd ar Fedi 23, 1899. Yn ôl ei dystiolaeth, daeth ef o gefndir tlawd ond gyda chysylltiadau da. Roedd ei dad yn Saer Rhydd blaenllaw ym Merthyr; roedd ei ewythr o deulu ei fam yn llawfeddyg gyda’r byddin yn India ac roedd aelod arall o’i deulu yn feddyg yn Eglwys Llundain. Hyrwyddodd ei fam ef i ddilyn gyrfa ym meddygaeth ac ar ôl addysg yn Ysgol Dduwdod Neuadd Llwyd i Annibynwyr yn agos i Aberaeron, gwnaeth ei hyfforddi meddygol yn Llundain yn Guy’s ac Eglwys Llundain. Roedd ef mewn gwasanaeth am sawl blynedd fel prif lawfeddyg yn Bury, Swydd Gaerhirfryn cyn dod i Gasnewydd.

Pan roedd e’n ifancach, roedd Dr Morgan wedi bod yn ‘Rhyddfrydol’ ac ar ôl iddo symud i Gasnewydd wedi dod yn gyfarwydd gyda ffigyrau gwleidyddol y dref, megis John Frost, a ddisgrifiwyd fel “dyn maint canolig, nodweddion ffres ac yn deg, dyn o fedr mawr ac addysg unigryw. Doedd e ddim yn ddyn a arddangosodd yn gynhyrsfwr gwaedlyd neu yn wrthryfelwr – doedd dim unrhyw beth a bortreadodd yn anwariad neu’n briwt amdano, ond roedd e’n gyflym i deimlo dicter ac roedd yn Radical ar y pryd pan roedd y term Radical yn gableddus. Mr Prothero oedd ei wrthwynebydd mawr, o’r cwmni Prothero a Phillips, a oedd yn ffigur pwerus yn y dref. Roedden nhw’n wrthwynebus i’w gilydd, yn ysgrifennu pamffledi yn erbyn ei gilydd ar wleidyddiaeth genedlaethol a chyffredin, arweinydd y blaid ddatblygedig oedd John Frost, cynrychiolodd Prothero yr hen urdd. Doedd dim Frost yn ddyn o waed ond dyn o nerth mawr a chymeriad, ac yn boblogaidd iawn gyda’r bobl.

Yn y nos cyn y brwydr ar Westy Westgêt, roedd Dr Morgan wedi croesi llwybrau gyda’r Siartywr yn y cymoedd: “Y diwrnod cyn daeth y Siartwyr i Gasnewydd roeddwn i wedi teithio lan y bryniau i ymweld â rhai cleifion… fel yr oeddwn i’n dychwelyd gwelais garfannau o ddynion yn dod tuag at Gasnewydd. Roeddwn i’n gwybod y cawsant eu disgwyl, ac roeddwn i am reidio i Gasnewydd, a rhoi rhybudd yr oedden nhw’n dod i’w gilydd mewn llu. Pan roeddwn yn reidio, cafodd cerrig eu taflu arnaf fi sawl tro, ond doeddwn i ddim yn eu hystyried. Fel y des i’n agosach i Gasnewydd…gwelais ddyn yn dod allan o lôn gyda gwn yn ei law. Gofynnais ‘Beth ydych chi’n gwneud gyda’r gwn hwnnw? Iddo. Ymatebodd ‘Dim byd’. Dywedais ‘Rhowch i mi’, cydymffurfiodd â fi. Saethais y gwn ac wedyn defnyddiais fy nghyllell poced i ddadsgriwio’r clo a’i roi yn fy mhoced. Rhoddais y gwn nôl iddo yn dweud, Dr William Morgan ydw i o Gasnewydd. Os ydych chi’n dod i Gasnewydd ac yn gofyn i mi, bydda i’n ei roi nôl i chi; ond o leiaf fyddwch chi ddim yn gallu gwneud drygioni nawr.”

Mae’n ymddangos yn chwilfrydig y dylai Siartydd arfog ddangos parch nodedig tuag at awdurdod ac yr oedd Dy Morgan yn lwcus i gyrraedd 35oed, nid 95oed yn unig. Parheuodd ddweud “Pan saethais y gwn, rhedodd fy ngheffyl i ffwrdd ac basai rhaid imi gerdded i Gasnewydd, ond cafodd ei weld yn carlamu ar y ffordd a chafodd ei stopio, rwy’n meddwl yr oedd yn Rhisga. Wedyn, teithiais nôl i’r dref ac dywedais wrth yr awdurdodau beth y gwelais.”

Ar ddiwrnod y brwydr, roedd ef mewn sefyllfa beryglus unwaith eto: “Y bore nesaf, roedd rhaid imi fynd allan eto i’r cefngwlad. Roeddwn i’n byw mewn tŷ ar gornel Heol Gorn, ond cafodd fy ngheffyl ei leoli mewn stablau yn y Tredegar Arms, es i lan i’w gasglu. Des i weld y cafodd y drysau eu baricadu ac er bod caniataodd y bobl i mi fynd i mewn, doedden nhw ddim eisiau fi gadael. Pan roeddwn yno, clywyd ergydion gwn, a gwelais ddyn a wisgodd ffedog saer yn mynd heibio…sylweddolais yr oedd y dyn yn edrych yn eithaf gwyn, ac yr oedd e’n darwahanu pan yr oedd e’n cerdded. Gofynnais iddo os oedd ganddo anafiad, dywedodd y cafodd ei saethu yn ei stumog. Archwiliais ef mewn ymdrech i ffeindio’r bwled, ond allwn i ddim, cafodd y dyn ei anfon adref. Wedyn es i lawr i Sgwâr Westgêt. Roedd y sgwâr yn wag, ond roedd pobl yn edrych o gwmpas corneli. Gallwn i weld barilau mysgedau’r milwyr yn pwyntio allan o’r ffenestri, gallwn i weld dyn anffodus yn gorwedd yn y ffordd. Ceisiodd godi ei hunan i fyny’n ddwywaith, ond syrthiodd i lawr pob tro. Galwais ar rai o’r dynion, ‘Mae e’n glwyfedig, helpwch fi gario fe i rywle i dendio arno, ond doedden nhw ddim yn symud, felly es i ymlaen, yn arddangos gyda fy llaw yr oedd fy mwriadau yn heddychlon. Penliniais wrth ei ymyl, yn gweld y cafodd ei anafu’n ddrwg, gofynnais iddo a oedd unrhyw beth y gallwn i wneud iddo. Dywedodd ‘Dŵr’, gydag hynny marwodd ef o flaen fy llygaid. Doedd dim byd pellach i wneud, felly gadawais i’r corff lle orweddodd. Wedyn, clywais yr oedd dyn yng Nghwrt Dŵr a gafodd doriad i’w fraich gan fwled. Es i i fyny a ffeindio’r dyn yno. Dywedodd yr oedd e’n mynd i’r Swyddfa Bost i bostio llythyrau, pan gafodd ei daro gan fwled a ddaeth o’r gwesty. Roedd y tai yng Nghwrt Dŵr yn wael iawn, ac awgrymais y dylai’r dyn gael ei symud felly gallwn i dendio iddo; ond pan geisiom ei symud, daethom o hyd i gleddyf yn ei drowsus. ‘Chi’n rhagrithiwr!’ ddywedais, ‘Roeddech chi’n honni yr oeddech chi’n mynd i’r Swyddfa Bost i bostio llythyrau ac roedd gennych arf llofruddiog. Fydda i ddim yn ymwneud gyda chi.’ Gadawais i’r dyn ac roedd rhaid i’w fraich gael ei drychu.” Mae’n ymddangos yr oedd Dr Morgan wedi anghofio ei lw Hippocratig. Modd bynnag, mae’n ymddangos y goroesodd y dyn am flynyddoedd i ddod: Yn oblegid i flynyddoedd ar ôl hyn, roedd dyn gydag un braich a yrrodd y gert ddŵr – cafodd y dref a’r ddinas eu cyflenwi gan gert yn y cyfnod hwn – dyna oedd y dyn. Cadarnheir hyn drwy gyfweliad gyda phreswylydd oedrannus Casnewydd a gyhoeddwyd gan y South Wales Argus wythnosol ar 27ain Rhagfyr 1924, a enwyd ef Ben Davies.

Diweddodd Dr Morgan: “Dyna i gyd popeth yr wyf yn ei wybod am derfysgoedd y Siartwyr, ac eithriad i’r hyn: deuddeg mis ar ôl, daeth dyn ataf, a gofynodd i mi am y clo i’w gwn, dywedodd yr oeddwn wedi ei addo i’w ddychwelyd pan yr hoffai ei gasglu; ac ar yr un pryd, dywedodd cwnstabl wrthaf, ‘Dydych ddim yn gwybod pa mor agos oeddech chi o gael eich saethu ar y bore hwnnw o flaen y Gwesty Westgêt. Pan ddaethoch chi ymlaen, dywedodd y sarsiant wrth Is-Gapten Gray, “Ddylen ni saethu?” ac dywedais, “Paid â saethu! Meddyg ifanc yw ef sydd wedi dod i’r dref yn ddiweddar.” Wrth gwrs, gallan nhw wedi meddwl yr oedd fy arwyddion llaw fel arwyddion a oedd yn galw ar gymheiriaid Siartydd i gychwyn ymosodiad ar y gwesty. “Mae un peth arall. Yn ystod y saethau gwn, aeth bwled drwy ffenest fy nhŷ ar Heol Gorn, pasiodd drwy ddrws a chydiodd wrth y wal. Doeddwn i ddim yn y tŷ ar y pryd, ond roedd gen i’r fwled yn gadw am flynyddoedd.” Mae sylwadau Dr Morgan ar ei ddihangfa agos o gael ei saethu yn awgrymu Mae sylwadau Dr Morgan ar ei ddihangfa clos o gael ei saethu yn awgrymu bod hyd yn oed ar ôl terfyniad y saethau gwn, roedd y sefyllfa yn parhau ac ymddangosodd i’r milwyr y basai’n ymosodiad newydd ar y gwesty yn debygol. Os ydy’n gywir, mae’n dynodi nad oedd y Siartwyr yn troi ac yn cilio mor gyflym â rhai adroddiadau yn awgrymu. Aeth Dr Morgan ymlaen i ddod yn ddinesydd blaenllaw yn y dref. Arhosodd yn weithredol mewn gwleidyddiaeth, yn gychwynnol fel Rhyddfrydwr, wedyn yn Undebwr Rhyddfrydol, ac arhosodd ef yng Nghasnewydd tan ei ymddeoliad, yn byw ym Mhenrhiw, Heol Wôtelŵ, ar ffin Parc Belle Vue. Bu farw yn Ionawr 1905 ac yn ei goflith ym mhapur The Times, dywedwyd wrth ddarllenwyr yr oedd ef “y meddyg hynaf yn y wlad siŵr o fod, ar 95oed”. Golygodd ei farwolaeth yr oedd Gwrthryfel Casnewydd wedi pasio o gof byw.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

My Tickets is currently in testing mode. No financial transactions will be processed.